Mae llefarwyr materion cynllunio’r tair gwrthblaid yn y Cynulliad wedi gwneud datganiad ar y cyd heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y Gymraeg yn rhan ganolog o’r Bil Cynllunio.

Cafodd y datganiad ei gyflwyno gan yr AC Russell George o’r Ceidwadwyr, Llŷr Huws Gruffydd o Bl
Y Ceidwadwr Russell George
aid Cymru a William Powell o’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ynddo maen nhw’n galw am nifer o newidiadau i’r Bil gan gynnwys gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth statudol yn y system gynllunio.

Mae nifer o arweinwyr cynghorau sir yng Nghymru hefyd wedi arwyddo llythyr at y Gweinidog Carl Sargeant yn annog yr un newidiadau i’r Bil, ac mae mudiad iaith wedi awgrymu eu bod nhw’n parhau i ystyried camau cyfreithiol os na fydd y Gymraeg yn ganolog i’r ddeddfwriaeth.

Fe fydd y Bil yn cael ei drafod yn y Cynulliad ddydd Mawrth.

Anghenion lleol

Yn ogystal â galw am fwy o ystyriaeth i’r Gymraeg yn y Bil Cynllunio mae’r Aelodau Cynulliad hefyd wedi mynnu bod angen seilio targedau codi tai ar anghenion lleol.

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn dweud eu bod nhw wedi cyflwyno miloedd o gardiau i Lywodraeth Cymru yn galw am roi lle canolog i’r Gymraeg yn y Bil Cynllunio fel bod datblygiadau tai yn ateb y galw lleol amdanynt.

Fe ddaeth y datganiad trawsbleidiol heddiw ar ôl i bwyllgor amgylchedd y Cynulliad argymell i’r Llywodraeth wneud nifer o welliannau i’r Bil er mwyn cryfhau cyflwr y Gymraeg ar lefel gymunedol.

“Mae Llŷr Huws Gruffydd, William Powell a minnau wedi cyflwyno datganiad barn ar y cyd yn galw am gryfhau statws y Gymraeg yn y Bil Cynllunio,” meddai Russell George, AC Sir Drefaldwyn, heddiw.

“Rydym yn gweld fod gan y Llywodraeth gyfle euraidd i ymgorffori’r Gymraeg yn y system gynllunio drwy roi grym i gynghorwyr lleol dderbyn neu wrthod cais cynllunio ar sail yr effaith ar y Gymraeg, a sefydlu system statudol o gynnal asesiadau effaith ar y Gymraeg ar gyfer datblygiadau sylweddol.”

Her gyfreithiol

Ychwanegodd Cymdeithas yr Iaith y bydden nhw’n parhau i ystyried camau cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Cymru os nad oedden nhw’n ymateb i’r pwysau cynyddol i newid y Bil.

“Mae’r pwysau’n cynyddu ar y Gweinidog i weithredu,” meddai Tamsin Davies, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“ Gobeithio y bydd hyn yn rhoi’r ysgytwad sydd ei angen i’w gweision sifil. Mae’r Gymraeg yn haeddu mwy na briwsion o’r bwrdd, fel mae’r datganiad ac adroddiad y pwyllgor yn dangos.

“Mae angen rhoi’r iaith ynghanol y Mesur yma; nid ildio’r lleiafswm i gadw pawb yn dawel. Rydyn ni’n falch iawn bod nifer fawr o Aelodau Cynulliad bellach yn cefnogi’r newidiadau sylfaenol rydyn ni’n galw amdanyn nhw o ran newid targedau tai, rhoi statws i’r Gymraeg a chreu cyfundrefn o asesiadau effaith iaith.

“Mae barn y Cynulliad yn dod yn glir. Mae dyletswydd gan y Gweinidog i ymateb yn deilwng i’r consensws. Os nad oes symud sylweddol gan y Llywodraeth, rydyn ni’n dal i baratoi ar gyfer her gyfreithiol er mwyn gorfodi iddyn nhw newid y Bil.”