Keith Vaz
Mae gormod o bobol sy’n diodde’ o afiechyd meddwl yn cael eu cadw dros nos mewn celloedd heddlu yng Nghymru a Lloegr, meddai aelodau seneddol.
Ac yn ôl cynrychiolwyr yr heddlu, mae angen gwahardd defnydd o’r celloedd mewn achosion o’r fath.
Roedd ymchwiliad gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref yn Nhŷ’r Cyffredin wedi dangos bod 6,000 o bobl sâl eu meddwl wedi cael eu cadw’n gaeth mewn celloedd heddlu y llynedd. Roedd hynny’n cynnwys 236 o blant.
Mae’r aelodau seneddol wedi beirniadu cyrff iechyd hefyd am fethu â chynnig adnoddau addas i ofalu am bobol o’r fath.
Gostwng amser
Yn ôl yr adroddiad, mae angen gostwng yr amser hwya’ ar gyfer cadw pobol sy’n diodde’ o afiechyd meddwl o 72 awr i 24.
Maen nhw hefyd yn dweud bod eisio rhoi’r gorau i gynnwys celloedd heddlu ar restr o lefydd diogel ar gyfer pobol sâl eu meddwl.
Fe ddylai Llywodraeth Prydain gyflymu’r broses o roi’r gorau i gadw pobol ifanc sâl eu meddwl mewn celloedd o’r fath, medden nhw.
Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Keith Vaz, mae’r defnydd o gelloedd heddlu hefyd yn costio ffortiwn i’r gwasanaeth.
Galw am wahardd
Ond mae Ffederasiwn yr Heddlu eisiau mynd ymhellach a rhoi stop ar gadw pobol mewn celloedd heddlu o dan y deddfau afiechyd meddwl.
“Dyw celloedd heddlu ddim yn lle ar gyfer pobol sy’n sâl eu meddwl,” meddai Dg Campbell, llefarydd iechyd meddwl Ffederasiwn Heddlu Lloegr a Chymru.
“Nid swyddogion heddlu yw’r bobol iawn i ofalu am bobol sydd â phroblemau iechyd meddwl.”
Fe ddywedodd gweinidogion o Lywodraeth Prydain eu bod yn croesawu’r adroddiad ac yn cytuno’n fras gyda’r amcanion.