Huw Lewis
Mae ysgol Gymraeg newydd yn cael ei hagor yn swyddogol heddiw yn ardal Llanelli.

Ac mae Ysgol Gymraeg Ffwrnes yn adeilad ecogyfeillgar gyda phob math o ddarpariaethau i arbed a chynhyrchu ynni

Mae’r rheiny’n cynnwys casglu dŵr glaw, ardaloedd plannu, paneli solar a ffynonellau ynni gwyrdd.

Mae’r ysgol newydd yn disodli hen adeilad o Oes Victoria ac mae wedi ei godi ar y cyd gan Gyngor Sir Gaerfyrddin a’r Llywodraeth.

Fe fydd lle yno i 420 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed.

“Mae’r adeilad newydd a thrawiadol hwn wedi ei godi yn lle’r un gwreiddiol, gan greu’r amgylchedd gorau posib i ysbrydoli ac yn ennyn diddordeb athrawon, disgyblion a’r gymuned yn ehangach,” meddai’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis.