Mae llai o blant bach yn Nghymru yn diodde’ o ddannedd drwg, yn ôl ffigurau newydd.

Yn ôl y Llywodraeth mae hynny’n newyddion addawol am eu rhaglen Cynllun Gwên ymhlith plant dan 6 oed mewn ardaloedd di-fraint.

Cwymp

Y ffigwr amlyca’ yw fod cwymp o 6% wedi bod yn nifer y plant 5 oed sy’n diodde’ o bydredd dannedd.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod mwy o blant wedi bod yn brwshio’u dannedd dan arolygaeth o oedolion yn eu cartrefi a mwy na 90,000 o blant wedi cymryd rhan mewn sesiynau addysg iechyd yn yr ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £12 miliwn yng Nghynllun Gwên ers ei lansio yn 2009. Mae’n cynnwys  brwshio danned dan arolygaeth mewn ysgolion a meithrinfeydd.

‘Addawol’

Yn ôl y Prif Swyddog Deintyddol, David Thomas, mae’r ffigurau’n addawol am eu bod yn dangos bod llai o blant yn diodde’ o bydredd dannedd a llai o ddannedd wedi heffeithio yn yr achosion unigol.
“Er ei bod hi’n rhy gynnar i ddyfarnu am effaith llawn Cynllun Gwên, mae’n edrych yn addawol. Ar draws pob grŵp cymdeithasol, mae pydredd danned yn gostwng. ”