Dim ond 6% o gyrchoedd awyr sydd wedi cael eu cynnal gan y DU yn erbyn IS
Fe all ac fe ddylai’r Deyrnas Unedig fod yn cymryd rôl ehangach yn y frwydr yn erbyn eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS), yn ôl grŵp o Aelodau Seneddol.
Mae adroddiad gan y Pwyllgor Amddiffyn wedi darganfod bod gan Brydain yr arbenigedd a’r adnoddau i roi rhagor o gefnogaeth i luoedd Irac ac annog datrysiad gwleidyddol.
Roedd yr ASau wedi’u synnu nad oedd penaethiaid wedi darparu datganiad clir ynglŷn ag amcanion y DU yn Irac pan oedden nhw’n rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor.
Daeth i’r amlwg hefyd mai dim ond 6% o gyrchoedd awyr sydd wedi cael eu cynnal gan y DU yn erbyn IS hyd yn hyn.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, yr AS Ceidwadol Rory Stewart bod pobl yn dechrau sylweddoli “yr hunllef o gael talaith jihadaidd yn cael ei sefydlu yn Syria ac Irac”.
Ychwanegodd bod IS wedi meddiannu tiriogaeth sydd tua’r un maint a’r DU, wedi achosi i filiynau o bobl ffoi o’u cartrefi, wedi ansefydlogi a bygwth taleithiau cyfagos, ac wedi darparu lloches i tua 20,000 o ymladdwyr o dramor.
‘Angen buddsoddi’n helaeth’
“Serch hynny, mae rôl y DU wrth geisio mynd i’r afael a hyn yn hynod o gymedrol.”
Mae’r pwyllgor yn argymell bod y DU yn buddsoddi’n helaeth er mwyn cael rhagor o staff milwrol yno i gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa ac i helpu i ddatblygu cynllun realistig ar gyfer delio gydag IS.
Ychwanegodd Rory Stewart: “Mae’n rhaid i ni gydnabod ein methiannau blaenorol yn Irac a diwygio’r ffordd rydyn ni’n symud ymlaen. Ond nid yw hynny’n golygu gwneud dim byd.
“Mae dwsinau o bethau y gallai’r DU fod yn ei gwneud, heb anfon milwyr yno, i weithio gyda phartneriaid a helpu i fynd i’r afael ag un o’r bygythiadau gwaethaf rydym wedi ei wynebu yn yr 20 mlynedd diwethaf.”