Drws carchar
Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Chris Grayling wedi cyhoeddi mesurau newydd i helpu carcharorion sy’n cael eu rhyddhau ar ôl cwblhau dedfryd o lai na blwyddyn.

Mae’r mesurau’n cynnwys rhoi cymorth i garcharorion roi’r gorau i alcohol a chyffuriau, a dod o hyd i gartrefi a swyddi.

Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, cafodd 86,000 o droseddau eu cyflawni yn 2012 gan droseddwyr oedd wedi treulio llai na blwyddyn yn y carchar.

Roedd 600 o’r troseddau’n ddifrifol oedd wedi’u cwblhau o fewn mis ar ôl cael eu rhyddau.

Mae’r mesurau wedi cael eu beirniadu gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio’r Carchardai.

Dywedodd Juliet Lyon o’r Ymddiriedolaeth: “Mae Chris Grayling yn wynebu’r risg o annog y llysoedd i hepgor cosbau mwy effeithiol, gan ddefnyddio carchardai sydd eisoes yn orlawn fel dull o driniaeth.

“Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn amcangyfrif y bydd y mesurau gorfodol newydd hyn yn arwain at 13,000 o bobol yn cael eu galw’n ôl i’r carchar a’r angen am 600 o lefydd newydd mewn carchardai ar gost o £16 miliwn.

“Yn dilyn cwtogi ar gyllidebau carchardai, torri’r gwasanaeth prawf yn ei hanner a chyfyngu ar fynediad i gyfiawnder, mae hwn yn arbrawf gymdeithasol enfawr i wneud y ddalfa’n lwybr i ailsefydlu.”