Baner IS i'w gweld yn y fideo
Mae fideo wedi ymddangos ar y we sy’n dangos y newyddiadurwr o Siapan, Kenji Goto yn cael ei ddienyddio gan y Wladwriaeth Islamaidd.
Daw’r fideo wedi diwrnodau o drafodaethau i geisio rhyddhau’r newyddiadurwr oedd wedi’i gadw’n wystl yn Syria.
Roedd y fideo yn dangos dyn ag acen Brydeinig sydd wedi bod â rhan mewn dienyddio gwystlon eraill ynghyd ag aelodau eraill o’r Wladwriaeth Islamaidd.
Yn y fideo, roedd rhybudd i Brif Weinidog Siapan, Shinzo Abe y byddai’r dienyddio’n parhau oni bai bod y wlad yn rhoi’r gorau i gefnogi’r ymdrechion i atal eithafiaeth Islamaidd.
Cafodd Kenji Goto ei gipio ym mis Hydref wrth geisio rhyddhau ei gydwladwr Haruna Yukawa, ond mae lle i gredu ei fod yntau wedi’i ladd hefyd.
Roedd yr eithafwyr wedi bygwth lladd y ddau o Siapan oni bai eu bod nhw’n derbyn 200 o ddoleri Americanaidd (£134 miliwn).
Dywedodd ei fam, Junko Ishido: “Fy ngobaith yw y gallwn ni barhau â chenhadaeth Kenji i achub y plant rhag rhyfel a thlodi.”