Paul Murphy AS
Mae un o gyn-Ysgrifenyddion Cymru wedi penderfynu y bydd yn ymddeol o Dy’r Cyffredin ym mis Mai eleni.

Fe ddaeth y cyhoeddiad na fydd Paul Murphy, Aelod Seneddol Torfaen er1987, yn sefyll eto. Mae wedi cynrychioli’r un sedd am 28 mlynedd.

Mae hefyd wedi treulio dau gyfnod yn Swyddfa Cymru, yn ogystal a chyflawni swydd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon yn ystod y broses heddwch.

“Roedd hi’n anodd gwneud y penderfyniad i sefyll o’r neilltu,” meddai Paul Murphy. “Ond rwy’n gwybod mai dyma’r peth iawn i’w wneud.”