Mae gwybodaeth yn ymwneud a thri ymchwiliad, sy’n cael eu harwain gan farnwyr, wedi mynd ar goll yn y post, meddai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MOJ).

Roedd dwy ddisgen yn cynnwys dogfennau am ymchwiliadau i rôl yr heddlu ym marwolaethau Mark Duggan, Azelle Rodney a Robert Hamill, wedi mynd ar goll ar ddechrau’r mis.

Mewn datganiad dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod wedi lansio ymchwiliad i’r digwyddiad.