Mae Arweinydd y Blaid Lafur wedi pwyso ar glybiau Uwch Gynghrair Lloegr i ddilyn esiampl clwb Chelsea a thalu ‘cyflog byw’ i’w gweithwyr.
Yn ôl Ed Miliband mae llawer iawn o glybiau pêl-droed yn yr un cae â chwmnïau cyfreithiol a chyfrifwyr, lle mae’r rhai ar ben y domen yn ennill miliynau tra bo glanhawyr, swyddogion diogelwch a chogyddion “yn ei chael yn anodd i ddal dau ben llinyn ynghyd”.
Fe ddylai’r Llywodraeth wneud mwy i sicrhau fod cyflogwyr yn talu’r ‘cyflog byw’ – sef £9.15 yn Llundain a £7.65 thrwy weddill Ynysoedd Prydain.
“Rhaid i gwmnïau sy’n medru fforddio talu miliynau o bunnau o gyflog i’r rhai ar y brig, fynd ati i esbonio pam nad ydyn nhw’n fodlon talu’r Cyflog Byw i’r rhai hynny ar y gwaelod,” meddai Miliband.
Mwy yn cael llai
Mae’r nifer o bobol sy’n cael llai na’r cyflog byw wedi codi o 3.4 miliwn i 5.3 miliwn ers etholiad 2010, tra bo cyflogau cyfarwyddwyr 100 cwmni’r FTSE wedi cynyddu 21% y llynedd, yn ôl Miliband.
Tra’n llongyfarch clybiau fel Chelsea am ymrwymo i dalu’r ‘cyflog byw’ roedd Ed Miliband yn tynnu sylw at y ffaith “nad yw llawer iawn o glybiau eraill y pêl-droed – gan gynnwys rhai o enwau mawr yr Uwch Gynghrair” wedi gwneud yr un peth.