Gareth Williams
Mae’r corff sy’n goruchwylio cwynion am yr heddlu (IPCC) wedi lansio ymchwiliad i oedi mewn achosion o gam-drin plant.
Bydd Comisiwn Cwynion yr Heddlu’n ymchwilio i sut wnaeth staff Canolfan Ddiogelwch Ar-lein rhag Ecsploetio Plant ddelio efo gwybodaeth gan Heddlu Canada ym mis Gorffennaf 2012 – oedd yn cynnwys manylion am droseddau Gareth Williams, cyn-ddirprwy Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd.
Ar ôl cael ei ddal fel rhan o ymchwiliad rhyngwladol, fe wnaeth Gareth Williams, 48, gyfaddef i 31 cyhuddiad oedd yn cynnwys bod efo mwy na 16,000 o ddelweddau anweddus o blant yn ei feddiant.
Ond mae honiadau fod yr asiantaeth CEOP yn ymwybodol fod Gareth Williams wedi prynu lluniau anweddus dros y we 19 mis cyn i Heddlu De Cymru allu cychwyn ymchwilio.
Fe fydd yr IPCC yn ymchwilio i weld os fuodd oedi diangen rhwng yr amser y cafodd y wybodaeth ei derbyn a’r troseddwyr eu dal.