Mae criw sy’n ymgyrchu tros sefydlu ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd wedi rhoi “croeso gofalus” i gynigion gan Gyngor Caerdydd ynglŷn â darparu ysgol i ddisgyblion cynradd yr ardal.

Ymysg y cynigion mae bwriad i sefydlu dosbarth cychwynnol ar gyfer y gymuned leol erbyn Medi 2015, ac addewid am Ysgol Gymraeg i wardiau Grangetown, Trebiwt, Glan-yr-afon a Threganna erbyn 2016.

Er hyn, mae aelodau ymgyrch TAG yn siomedig gyda rhai agweddau o’r cynigion ac yn dweud bod oedi gan y cyngor wedi golygu na fydd modd cynnal ymgynghoriad statudol tan ar ôl etholiadau San Steffan ym mis Mai.

Mae’r cynigion yn cael eu hamlinellu mewn adroddiad fydd yn cael ei drafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Llun.

Oedi

Meddai Jo Beavan-Matcher, Cadeirydd Ymgyrch TAG: “Un siom amlwg yw’r ffaith na chaiff yr ysgol leoliad parhaol tan 2017, er bod addewid am ysgol erbyn 2016.

“Ynghlwm â hynny mae’n drueni bod oedi’r Cyngor hyd yma wedi golygu na fydd modd cynnal ymgynghoriad statudol tan ar ôl etholiadau San Steffan ym mis Mai, fydd yn cyfrannu at oedi’r broses ymhellach.”