Mae criw o bobol sy’n cynnwys dyn o Gonwy wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o geisio cael £140 miliwn trwy dwyll.

Mae Elfed Wynn Thomas, 53, pum dyn a dynes arall yn cael eu cyhuddo o dwyllo banciau i brynu cytundebau ffug am wifrau band llydan optig ffeibr dros gyfnod o bedair blynedd.

Clywodd Llys y Goron Southwark, Llundain mai Stephen Dartnell, 58, oedd yn arwain y twyll dan yr enw Total Asset Finance.

Honnir ei fod wedi cydweithio gydag Elfed Wynn Thomas, George Alexander, 47, Carl Cumiskey, 53, Kerry Ann Lloyd, 48, a Simon Mundy i gyflawni’r troseddau rhwng mis Ionawr 2007 a mis Tachwedd 2010 yn erbyn banciau KBC a Barclays.

Fe fydd y difinyddion yn cyflwyno ple ar 12 Mehefin.