Annie Atkins ar glawr Golwg
Merch o Ddolwyddelan yn Sir Conwy sy’n gyfrifol am waith graffeg ar y ffilm The Grand Budapest Hotel, sydd wedi cael ei henwebu am naw gwobr yn seremoni’r Oscars eleni.
Annie Atkins, sydd bellach yn byw yn Nulyn, oedd yng ngofal y gwaith graffeg a oedd yn addurno gwlad ddychmygol ‘Zubrowka’ yn y ffilm.
Mae’r enwebiadau am naw Oscar yn cynnwys un am ‘Dylunio’r Cynhyrchiad’.
Mae’r ffilm wedi ei seilio yn gyfan gwbl ar wlad ffuglennol.
“Roedd yn rhaid i ni greu popeth o sgratsh,” meddai Annie Atkins wrth gylchgrawn Golwg.
“Roedd yn rhaid i ni greu pethau fel arian newydd sbon, stampiau postio, yr holl faneri a’r symbolau ar gyfer y wlad.”
Spielberg
Mae Annie Atkins newydd fod yn gweithio ar ffilm ddiweddaraf Stephen Spielberg sydd wedi’i gosod yng nghyfnod y Rhyfel Oer, gyda Tom Hanks yn y brif ran.
“Roedd e’n adrodd stori go-iawn,” meddai, “am ysbïwr yn Efrog Newydd yn y 1960au. Mae’n rhaid i bethau fod yn gwbl realistig, a rhaid defnyddio brandiau a chynnyrch go iawn yn y cefndir.”
Mwy o’r stori hon gan Non Tudur yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.