Mae ystadegau gan y Coleg Heddlu wedi awgrymu bod swyddogion yn gorfod delio fwyfwy gydag unigolion bregus, er bod llai ohonyn nhw nawr ar ddyletswydd.
Dywedodd y Coleg bod y nifer o swyddogion heddlu wedi cwympo 11% dros y pum mlynedd diwethaf a bod un swyddog bellach ar ddyletswydd am bob 1,753 person yn eu rhanbarth.
Ond mae’n ymddangos bod swyddogion bellach yn gorfod delio gydag unigolion â phroblemau meddyliol yn llawer mwy aml.
Mae cynnydd hefyd wedi bod yn y gwaith o ddelio â throseddwyr risg uchel ac amddiffyn pobl fregus sydd o dan fygythiad, rhywbeth sydd yn “heriol tu hwnt” ac yn cymryd cryn dipyn o adnoddau’r heddlu, yn ôl y Coleg.
Diwrnod yr heddlu
Fe ryddhaodd y Coleg Heddlu wybodaeth oedd yn ceisio creu darlun o ddiwrnod cyffredin heddweision yng Nghymru a Lloegr.
Ar gyfartaledd fe fyddai swyddogion heddlu mewn un rhanbarth yn arestio 50 o bobl, delio â 101 achos o ymddygiad anghymdeithasol, a delio â 12 achos o rywun ar goll.
Fe fyddan nhw hefyd yn stopio a chwilio rhywun 37 o weithiau, delio â naw damwain draffig, ac ymateb i 14 achos yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl.
Maen nhw hefyd yn delio â miloedd o deuluoedd sydd ar raglen teuluoedd mewn trafferth, pobl sydd wedi dioddef trais domestig, a phlant bregus, yn ogystal â rheoli troseddwyr rhywiol a threisgar.
Newid yn natur y swydd
Wrth ymateb i adroddiad y Coleg Heddlu fe gytunodd Prif Uwch-arolygydd Heddlu Dyfed Powys fod gwaith Y Glas bellach wedi newid fel y mae cymdeithas wedi newid.
“Mae’r gwaith dadansoddol gan yr heddlu yn dangos newid clir yn y math o droseddau a welwn, yn enwedig gyda throseddau yn ymwneud â thwyll ar-lein,” meddai Pam Kelly.
“Fodd bynnag, mae un maes sydd wedi dangos cynnydd sylweddol yn ymwneud â gwasanaethau i helpu unigolion sydd yn ceisio delio â salwch meddwl, pobl sydd ar goll a galwadau eraill yn ymwneud â diogelwch pobl.
“Yn y categori hwn mae Heddlu Dyfed Powys wedi gweld cynnydd o 2,000 o alwadau dros y pum mlynedd diwethaf.”
Fe esboniodd fod hyn yn gosod rhagor o straen ar y gwasanaeth sydd eisoes yn gorfod ymdopi â llai o swyddogion.
“Beth mae hyn yn ei olygu i Heddlu Dyfed Powys yw, yn ystod cyfnod ble mae’r gyllideb yn cael ei gwasgu ac mae’r cyhoedd yn haeddu heddlu sydd yn weledol, ein bod ni’n ceisio sicrhau fod ein hadnoddau, swyddogion arbennig a hyfforddiant wedi ei anelu at ble mae’r galw,” ychwanegodd Pam Kelly.