Mae athrawon ifanc yn dioddef rhagfarn yn eu herbyn oherwydd eu hoedran, yn ôl arolwg gan yr undeb NASUWT.

Dywedodd dau draean o’r athrawon ifanc sydd yng nghynhadledd athrawon ifanc yr NASUWT yn Birmingham y penwythnos yma eu bod nhw wedi dioddef bwlio ac aflonyddu yn eu gwaith – naill ai gan uwch-reolwyr, cydweithwyr, plant neu rieni.

Roedd llwyth gwaith gormodol hefyd yn peri pryder i’r athrawon ifanc, gyda’r mwyafrif lethol yn credu nad oedd y Llywodraeth yn parchu nac yn gwerthfawrogi athrawon.

Meddai Chris Keytes, ysgrifennydd cyffredinol yr NASUWT, a fu’n annerch y gynhadledd:

“Mae’n bryder mawr fod ymroddiad athrawon ifanc yn cael ei danseilio gan fwlio ac aflonyddu a bod eu hynni a’u brwdfrydedd yn cael ei bylu gan lwyth gwaith ac oriau gormodol.

“Mae’r Llywodraeth wedi creu hinsawdd lle gall arferion rheoli gwael ffynnu, a dyna pam fod bwlio ac aflonyddu ar gynnydd.

“Athrawon ifanc yw dyfodol y proffesiwn, dyfodol sy’n cael ei danseilio gan fethiant y Glymblaid i annog a sicrhau arferion cyflogaeth sy’n meithrin a gwerthfawrogi athrawon a’u proffesiynoldeb.”

Mae cynhadledd yr athrawon ifanc yn ddigwyddiad blynyddol ac mae’n agored i unrhyw aelod o’r NASUWT sydd o dan 30 oed.