Ni fydd yr un trên Eurostar yn rhedeg heddiw
Mae holl drenau’r gwasanaeth Eurostar o dan y sianel wedi cael eu canslo oherwydd mwg yn un o’r twneli.

Dywed neges ar wefan Eurostar fydd rhagor o drenau heddiw ac mae’n cynghori teithwyr i ohirio eu taith a pheidio â dod i’r orsaf.

Fe fydd y twnel wedi cau nes y cyhoeddir yn wahanol.

Er bod hyn yn digwydd ar adeg pan fo pryder am ddiogelwch yn sgil yr ymosodiadau yn Paris a’r ymgais i gyflawni ymosodiad ym Mrwsel, dywed heddlu Caint mai lori ar dân sy’n gyfrifol am y mwg.

“Mae’r tân ar ben Ffrainc i’r twnel ac mae awdurdodau Ffrainc yn mynd i’r afael ag ef.,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. “Does dim adroddiadau o anafiadau.

“Fodd  bynnag, rhaid i deithwyr trenau ddisgwyl oedi sylweddol tra bydd y cerbyd yn cael ei agor a’r mwg yn cael ei glirio o’r twnelau.”

Mae Eurostar yn rhedeg gwasanaeth cyson o drenau uniongyrchol rhwng gorsaf St Pancras yn Llundain a Paris a Brwsel.