Y cyfarfod yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin, y bore yma
Mae aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin wedi ymrwymo i gadw llygad barcud ar ddefnydd y Cyngor Sir o’r Gymraeg.

Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin, y bore yma, fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gydnabod bod y Cyngor wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, ond bod angen gwneud llawer o mwy i gryfhau’r Gymraeg yn y sir.

Ymhlith y siaradwyr yn y cyfarfod roedd Elinor Jones, Uchel Siryf Dyfed, a’r Cynghorwyr Cefin Campbell a Calum Higgins o Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Clywodd y cyfarfod fod gan y Gymdeithas ‘farcutiaid iaith’ a fydd yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith i gadw golwg ar gofnodion cyfarfodydd, cyhoeddiadau’r cyngor ac i fynd i gyfarfodydd y cyngor a nodi unrhyw faterion sy’n codi.

Disgwyliadau

Dywedodd Amy Jones, Is-Gadeirydd rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:

“Rydyn ni’n falch bod swyddogion a chynrychiolwyr y cyngor wedi dod i’n cyfarfod ni heddiw. Mae’n dangos eu bod yn cymryd y Gymraeg o ddifrif, ond mae tipyn eto i’w wneud os ydyn ni am weld niferoedd siaradwyr Cymraeg yn tyfu a bod ein cymunedau ni’n cael eu hadfer.

“Er ein bod ni’n rhoi disgwyliadau ar y cyngor, mae rhan gyda ni i gyd i chwarae. Rydyn ni’n falch o allu dweud felly bod gyda ni dros hanner cant o bobl sydd am fod yn ‘farcutiaid’ ac sydd yn mynd i gadw llygad barcud ar waith y cyngor sir.

“Erbyn diwedd y mis rydyn ni’n anelu at gael haid o gant o farcutiaid ar waith. Y bwriad yw y byddan nhw’n cwrdd yn rheolaidd ac iddyn nhw adrodd nôl mewn chwe mis i adolygu eto. Bryd hynny byddwn ni’n disgwyl diweddariad pellach o Gynllun Gweithredu’r Cyngor Sir.”