Mae disgwyl i gwmni olew BP drafod eu cynlluniau i ddiswyddo staff yn ei safleoedd ym Môr y Gogledd heddiw.
Roedd y cwmni wedi cyhoeddi cynlluniau ail-strwythuro fis diwethaf yn dilyn y gostyngiad ym mhrisiau olew.
Mae tua 15,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan BP yn y DU, tra bod y cwmni’n cyflogi 84,000 o weithwyr yn fyd-eang.
Fe rybuddiodd fis diwethaf y byddai nifer y diswyddiadau yn y DU yn cynyddu, gyda’r ffocws yn bennaf ar bencadlys y cwmni a swyddi gweinyddol.
Yn ôl y BBC, fe fydd y cyfarfod gyda’r staff heddiw yn cael ei gynnal ym mhencadlys BP yn Aberdeen.
Mae’r cwmni olew wedi dweud y bydd y cynlluniau ail-strwythuro yn costio £638 miliwn dros y flwyddyn nesaf.
Daw’r cynlluniau i symleiddio’r busnes wrth i bris olew ostwng tua 40% yn is na’r lefel yn gynharach y llynedd.
Mae Llywodraethwr Banc Lloegr Mark Carney wedi rhybuddio y gall yr Alban ddioddef yn sgil y gostyngiad ym mhris olew ac mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi sefydlu tasglu i geisio helpu gweithwyr yn y sector olew.
Fe fydd yr Ysgrifennydd Ynni Ed Davey yn cwrdd â swyddogion o’r diwydiant olew a nwy yn yr Alban yn ddiweddarach heddiw.