Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cymryd y cam anarferol o gyhoeddi ail adroddiad ar y “methiannau parhaus” sydd yn arweinyddiaeth Cyngor Cymuned Mawr.

Dair blynedd ar ôl i’r adroddiad damniol cyntaf gael ei gyhoeddi, mae’r Archwilydd Penodedig yn dweud nad yw’r cyngor wedi dysgu o’u camgymeriadau.

Mae Cyngor Cymuned Mawr yn gwasanaethu pentrefi Craig-Cefn-Parc, Felindre a Garnswllt yn ne Cymru a’r ardaloedd rhyngddyn nhw.

Ymysg y methiannau sy’n cael eu crybwyll gan yr Archwilydd mae trefniadau llywodraethu a diffygion o ran rheoli ariannol a rheolaeth fewnol.

Nododd yr adroddiad y canlynol hefyd:
• Diffyg dealltwriaeth cynghorwyr unigol o’u rôl a’u cyfrifoldebau a diffyg sylw i lywodraethu priodol sydd wrth wraidd anawsterau’r Cyngor.
• Mae diffygion yng nghofnodion y Cyngor yn ei gwneud hi’n anodd gwybod pa benderfyniadau a wnaed a pha wybodaeth a ddarparwyd i gefnogi penderfyniadau.
• Methodd y Cyngor gydymffurfio â gofynion statudol i ystyried yr adroddiad er budd y cyhoedd ym mis Rhagfyr 2011.
• Mae’r Cyngor wedi cael benthyciad gan Ymddiriedolaeth Datblygu Mawr heb gael cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru ac nid yw wedi ad-dalu cyfran sylweddol o’r benthyciad eto.

Dyletswydd

Meddai’r Archwilydd Penodedig a’r Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Anthony Barrett, heddiw: “Rwyf wedi gorfod cymryd y cam anarferol o gyhoeddi adroddiad arall ar reolaeth Cyngor Cymuned Mawr.

“Mae’n achos pryder nad yw’r cyngor wedi dysgu’r gwersi gofynnol ers fy adroddiad diwethaf yn 2011 a’i fod yn methu cydymffurfio â’i ddyletswyddau statudol.”