Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi dweud na ddylai penaethiaid y BBC wrthod rhoi tystiolaeth i bwyllgorau seneddol.

Daw ei sylwadau yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog yn dilyn adroddiadau bod y cyfarwyddwr cyffredinol, yr Arglwydd Hall wedi gwrthod mynychu sawl cyfarfod pwyllgor.

Dywedodd Cameron fod rhaid i’r Gorfforaeth fod yn “atebol yn gyhoeddus”.

Awgrymodd Aelod Seneddol Gogledd Thanet, Syr Roger Gale fod yr Arglwydd Hall wedi gwrthod mynychu’r cyfarfod am ei fod yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi.

Ychwanegodd fod angen adolygu’r fraint sy’n cael ei roi i aelodau Tŷ’r Arglwyddi.

Dywedodd David Cameron fod “yr Arglwydd Hall yn gwneud gwaith da yn y BBC” ond ychwanegodd y byddai’n ymchwilio i’r mater.