Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddynes gael ei lladd ar ôl i arwydd siop ddisgyn arni.

Fe ddigwyddodd y ddamwain tu allan i siop Waterstones yn Blackpool ddoe.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Swydd Gaerhirfryn bod yr heddlu wedi eu galw yno am 5.30yp yn dilyn adroddiadau bod arwydd wedi cwympo o flaen siop Waterstones yn Stryd Bank Hey yn y dref.

“Cafodd dynes, y credir oedd yn ei 70au, anafiadau difrifol a bu farw yn y fan a’r lle. Mae ymchwiliad ar y gweill.”

Nid yw’n hysbys ar hyn o bryd a oedd y  ddamwain o ganlyniad i’r gwyntoedd cryfion.