Mae dyn wedi marw ar ôl mynd i drafferthion mewn caiac ar yr Afon Tawe ddoe.
Cafodd y gwasanaethau brys – gan gynnwys Tîm Achub Mynydd Aberhonddu – eu galw i leoliad rhwng Ynyswen ac Abercraf, ger bwyty The Ancient Briton, am tua 12 o’r gloch prynhawn dydd Llun.
Roedd adroddiadau bod dau ddyn wedi mynd i drafferthion mewn ardal lle mae’r afon yn symud yn gyflym iawn.
Cafodd y dyn ei achub tua dau o’r gloch ond bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
“Cafodd y dyn driniaeth gan barafeddygon a’i gludo i Ysbyty Treforys ond bu farw,” meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Tan ac Achub Dyfed Powys.
Mae’r crwner lleol wedi cael gwybod am y farwolaeth.