Fe fydd cynghorwyr Sir Ddinbych yn trafod cynlluniau i ad-drefnu ysgolion yr ardal heddiw, sy’n cynnwys awgrym dadleuol i uno un ysgol gynradd Gymraeg gydag ysgol ddwyieithog.
Un o’r dewisiadau fydd yn cael ei drafod yw uno Ysgol Pentrecelyn, ysgol uniaith Gymraeg gyda thua 30 o ddisgyblion, gydag Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd, sy’n ysgol ddwyieithog gyda thua 90 o ddisgyblion.
Er bod gwrthwynebiad lleol wedi bod i’r awgrym hwn, mae’r cyngor wedi awgrymu bod lleoliad daearyddol agos y ddwy ysgol yn golygu y dylid cael mwy o gyd-weithio.
“Byddai sefydlu ysgol ardal newydd yn darparu gwell cyfleusterau na’r hyn sy’n cael ei ddarparu yn y ddwy ysgol ar hyn o bryd, ac yn creu ysgol addas i fedru ei gynnal yn y tymor hir,” meddai adroddiad gan y cyngor.
Un ysgol gynradd Gymraeg arall sydd yn Rhuthun, sef Ysgol Pen Barras.
Mae’r cynlluniau’n rhan o adrefnu ehangach o ysgolion cynradd ardal Rhuthun.