Tren Arriva Cymru
Roedd trenau Arriva Cymru yn cyrraedd ar amser yn fwy aml na bron unrhyw wasanaeth arall drwy Brydain y llynedd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf sydd wedi eu cyhoeddi.

Dangosodd ffigyrau Network Rail fod 82.6% o drenau Arriva Cymru yn cyrraedd pen eu taith yn gynnar neu ar amser, ffigwr llawer uwch na’r cyfartaledd o 62.4% drwy Brydain.

Dim ond dau o’r 22 gwasanaeth rheilffyrdd ym Mhrydain oedd â ffigyrau gwell nac Arriva Cymru – gwasanaethau Chiltern, a c2c Rail.

Roedd 65.5% o drenau First Great Western, un o’r cwmnïau eraill sydd yn rhedeg gwasanaethau yng Nghymru, ar amser yn ystod 2014.

Ond roedd gwasanaethau Virgin Trains ymysg y rhai lleiaf tebygol o gyrraedd ar amser, gyda dim ond 50.9% o’u trenau nhw yn cyrraedd pen y daith mewn pryd.

Un o’r gwasanaethau oedd â’r ffigyrau gwaethaf oedd trenau Southern – fe gadarnhaodd y cwmni fod un o’u trenau, y gwasanaeth 7.29yb rhwng Brighton a London Victoria, heb fod ar amser unwaith ystod 2014.