David Cameron yn ymuno ag arweinwyr byd yn yr orymdaith ym Mharis ddoe
Mae’r  Prif Weinidog David Cameron yn cyfarfod â phenaethiaid diogelwch heddiw i drafod ymateb Prydain i’r ymosodiadau brawychol yn Ffrainc a ddechreuodd wythnos diwethaf gyda chyflafan ym mhencadlys cylchgrawn Charlie Hebdo.

Ar ôl ymuno ag Arlywydd Ffrainc Francois Hollande a mwy na 3.7 miliwn o orymdeithwyr ar strydoedd Paris ddoe i ddangos undod rhyngwladol er cof am yr 17 o bobl fu farw, fe roddodd David Cameron addewid i gyflwyno pwerau “mwy pellgyrhaeddol” i fonitro pobl sy’n cael eu hamau o frawychiaeth yn y DU.

Dywedodd fod gwledydd Prydain yn wynebu’r un bygythiad a Ffrainc o ymosodiadau brawychol a bod angen dysgu gwersi o’r hyn ddigwyddodd yno.

Mae’r Ceidwadwyr wedi awgrymu y byddan nhw’n ceisio ail gyflwyno bil cyfathrebu – a gafodd ei atal gan y Democratiaid Rhyddfrydol – os ydyn nhw’n dod i rym yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.  Fe fyddai’n rhoi mwy o rym i Lywodraeth Prydain graffu ar ddulliau cyfathrebu unigolion sy’n cael eu hamau o fod â rhan mewn brawychiaeth.

Yn dilyn yr orymdaith ym Mharis, dywedodd David Cameron y byddai’n cyflwyno rheolau llymach pan fydd deddfwriaethau’n cael eu hadnewyddu yn 2016, os yw’n parhau’n brif weinidog.

Ond mae grwpiau hawliau sifil wedi rhybuddio yn erbyn defnyddio llofruddiaethau Charlie Hebdo i ehangu pwerau goruchwylio.