Mae deifwyr wedi dod o hyd i flwch du awyren AirAsia a blymiodd i mewn i fôr Java, yn ôl adroddiadau.

Ond mae’r ymdrechion i’w dynnu o’r dŵr yn parhau gan ei fod yn sownd o dan weddillion yr awyren.

Roedd 162 o bobol ar yr awyren pan ddaeth i lawr ar daith o Indonesia i Singapore bythefnos yn ôl.

Mae arbenigwyr wedi cadarnhau’r canfyddiad yn dilyn adroddiadau bod synnau’r awyren i’w clywed yn y môr.