Mae ail gorff wedi cael ei ddarganfod ar draeth yn Swydd Sussex wedi i ddau ddyn gael eu llusgo i’r môr yn Swydd Sussex fore ddoe.
Cafodd corff Freddie Reynolds, 24, ei adnabod ddoe a daeth yr heddlu o hyd i gorff ei gyfaill, Dan Nicholls, 23, y bore ma.
Cafodd yr ail gorff ei ddarganfod am 8.10 y bore ma ar draeth yn Rottingdean, dair milltir a hanner i ffwrdd o Brighton, lle aeth y ddau ddyn i’r môr fel rhan o gêm lle’r oedden nhw’n herio’i gilydd.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Carwyn Hughes o Heddlu Swydd Sussex: “Rydym yn teimlo rhyddhad fod cyrff y ddau ddyn wedi cael eu darganfod.
“Bu hwn yn benwythnos trawmatig i ffrindiau a theuluoedd Dan a Freddie.
“Roedd yr hyn oedd i fod yn dipyn o hwyl wedi troi’n drasig gyda Dan yn cael ei lusgo o ymyl y dŵr a Freddie yn neidio i mewn yn ddewr iawn i geisio’i achub.
“Mae ein cydymdeimlad gyda’u teuluoedd ac rydyn ni’n eu cefnogi nhw.
“Rwy am ddiolch i’r sawl oedd wedi brwydro yn erbyn yr amodau ofnadwy i chwilio yn ystod y dydd a’r nos am y ddau ddyn.
“Roedd y criwiau ymroddgar yn cynnwys gwasanaethau achub arfordirol, gwirfoddolwyr o dimau Chwilio ac Achub Swydd Sussex, swyddogion y glannau a swyddogion chwilio arbenigol.
“Rwy hefyd am ddiolch i dîm yr heddlu a ymatebodd yn y lle cyntaf, fy nhîm i yn yr ymchwiliad a swyddogion cyswllt teuluol sydd wedi cefnogi’r teuluoedd drwy gydol y penwythnos.
“Nawr, byddwn yn cwblhau’r ymchwiliad ar ran y crwner.
“Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ac rwy’n annog pobol i feddwl am eu diogelwch a chadw draw o’r môr pan fo mor beryglus.”
Aeth y ddau i drafferthion ger Palace Pier toc wedi 1 o’r gloch fore Sadwrn ar ôl bod allan yn y ddinas.
Roedden nhw ar y traeth gyda thri dyn arall.
Mae lle i gredu bod Freddie Reynolds wedi mentro i’r môr i helpu Dan Nicholls.