Mae archifau papur newydd Almaenig wedi cael eu targedu ar ôl i’r cyhoeddiad ail-argraffu’r ddelwedd ddadleuol o’r proffwyd Muhammad a arweiniodd at yr ymosodiadau brawychol ym Mharis.

Dywedodd yr Hamburger Morgenpost ar eu gwefan fod nifer o archifau wedi cael eu dinistrio yn ystod yr ymosodiad dros nos, ond na chafodd unrhyw un ei anafu.

Dywedodd yr heddlu yn Hamburg fod dau ddyn yn cael eu holi ar ôl iddyn nhw gael eu harestio ger adeilad y papur newydd.

Mae nifer o bapurau newydd Almaenig wedi ail-gyhoeddi’r ddelwedd er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r newyddiadurwyr a gafodd eu lladd ym Mharis.