Mae dynes wedi cael ei lladd wrth iddi gerdded ar hyd yr M25 yn oriau man y bore ma.
Mae Heddlu Swydd Surrey yn apelio am dystion i’r digwyddiad toc wedi 2.50 heddiw.
Roedd y ddynes yn cerdded ger cyffordd 13 y draffordd yn Staines-upon-Thames pan gafodd ei tharo gan gerbyd.
Mae’r draffordd ar gau rhwng maes awyr Heathrow a Chertsey, ac mae Heddlu Swydd Surrey wedi rhybuddio y gallai fod ynghau am “gryn amser”.
Mae gyrwyr wedi cael rhybudd i osgoi’r ardal.