Bu cannoedd o bobol yn cynnau canhwyllau ym Mae Caerdydd neithiwr i gofio’r rhai fu farw yng nghyflafan Paris ddydd Mercher.

Bu farw 17 o bobol dros gyfnod o dridiau yn dilyn cyfres o ymosodiadau brawychol ar draws brifddinas Ffrainc.

Cafwyd munud o dawelwch a chafodd  canhwyllau  eu cynnau ger y Senedd am 6 o’r gloch.

Ymhlith y rhai fu’n bresennol roedd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb a chynrychiolwyr o amryw grefyddau’r brifddinas.

Mae dros 2,000 o bobol Ffrengig yn byw yn ne Cymru.

Roedd mwy na 900 o bobol wedi dweud ar dudalen Facebook y digwyddiad eu bod nhw’n bwriadu mynychu.

Bu tua miliwn o bobol yn gorymdeithio ym Mharis ddoe.