Mae dyn 22 oed wedi cael ei gyhuddo o ladd dynes 19 oed trwy yrru’n beryglus yng Nghasnewydd fore Gwener.
Cafodd Xana Doyle ei lladd yn y fan a’r lle ar Ffordd Brynbuga’r ddinas, ac fe aed â dynes arall i’r ysbyty ag anafiadau i’w breichiau.
Mae’r dyn 22 oed hefyd wedi’i gyhuddo o ddwyn cerbyd, gyrru heb yswiriant a than ddylanwad alcohol.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd fore Llun.
Mae dyn 21 oed wedi cael ei ryddhau’n ddi-gyhuddiad.