Gweithwyr tân ar streic yn ystod mis Gorffennaf y llynedd (llun: PA)
Bydd y Torïaid yn cyflwyno deddfau a fydd yn ei gwneud hi’n fwy anodd i undebau alw streiciau os byddan nhw’n ennill yr etholiad cyffredinol eleni.
Eu bwriad yw cyfyngu llym ar yr hawl i weithredu diwydiannol yn y gwasanaethau iechyd, addysg, trafnidiaeth a thân. O dan eu cynlluniau, byddai angen cefnogaeth 40% o leiaf o’r rheini a fyddai â hawl i gymryd rhan mewn pleidleisiau streic – yn ogystal â mwyafrif o’r rhai sy’n pleidleisio.
Mae eu cynlluniau hefyd yn cynnwys diddymu’r gwaharddiad ar ddefnyddio staff asiantaeth i gymryd lle gweithwyr ar streic, ac ystyried cyflwyno isafswm lefel gwasanaeth er mwyn sicrhau bod gwasanaethau craidd yn dal ar gael yn ystod streiciau.
Wrth gyhoeddi’r cynlluniau, dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Patrck McLoughlin, mai eu bwriad yw rhwystro arweinwyr undebau rhag cychwyn streiciau gyda chefnogaeth cyfran fach yn unig o’u haelodau.
“Nid yw ond yn deg bod hawliau undebau’n cael eu cydbwyso â hawliau trethdalwyr sy’n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus allweddol,” meddai.
‘Gwarth democrataidd’
Mae’r cynlluniau wedi cael eu collfarnu’n hallt gan undebau.
Meddai ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Frances O’Grady:
“Does gan yr un wlad ddemocrataidd yn y byd y math yma o gyfyngiad ar weithredu diwydiannol. Mae’n warth democrataidd, yn enwedig gan fod y Ceidwadwyr wedi gwrthwynebu pleidleisiau cyfrinachol ar-lein – mesur a fyddai’n sicr o gynyddu’r niferoedd sy’n pleidleisio.
“Fe wyddon ni eu bod nhw’n bwriadu cael gwared ar filiwn o swyddi sector cyhoeddus a thorri gwerth tâl y sector cyhoeddus bob blwyddyn yn y senedd nesaf os byddan nhw’n ennill yr etholiad. Bellach maen nhw am ei gwneud hi’n amhosibl i weithwyr sector cyhoeddus wrthsefyll hyn.”
Ac meddai ysgrifennydd cyffredinol Unsain, Dave Prentis:
“Fe fyddai’r mesurau hyn yn ei gwneud hi’n amhosibl i bob pwrpas i unrhyw un yn y sector cyhoeddus fynd ar streic – gan symud y cydbwysedd yn gyfan gwbl o blaid y Llywodraeth a chyflogwyr, ac oddi wrth weision cyhoeddus ymroddedig.”