Banc Lloegr
Mae Banc Lloegr wedi cadw’r gyfradd llog yn 0.5% unwaith eto, sy’n golygu bod y gyfradd wedi bod ar ei lefel isaf erioed ers bron i chwe blynedd.

Mae chwyddiant hefyd ar ei lefel isaf o 1% ers deuddeg mlynedd, gyda disgwyl iddo syrthio ymhellach yn sgil y gostyngiad ym mhris olew.

Dangosodd y ffigyrau diweddaraf o fis Rhagfyr bod yr adferiad economaidd yn ystod 2014 wedi bod yn arafach na’r disgwyl.

Gwelwyd hefyd bod Prydain yn ddibynnol ar wariant nwyddau ar gyfer y cartref a bod buddsoddiadau gan fusnesau wedi lleihau.