Mae Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Vince Cable wedi awgrymu y bydd ymchwiliad i fethiant y cwmni City Link.
Aeth y cwmni i’r wal yn ddiweddar, ac fe ddywedodd Cable fod ymchwiliad yn ddibynnol ar adroddiad y gweinyddwyr.
Mae’r Blaid Lafur eisoes wedi rhoi pwysau ar Lywodraeth Prydain i gynnal ymchwiliad, ac fe ddywedodd llefarydd busnes y blaid, Chuka Umunna fod y sefyllfa’n “hollol warthus”.
Cafodd gweithwyr wybod trwy’r cyfryngau ar Ddydd Nadolig fod eu swyddi mewn perygl.
Mae nifer o aelodau’r Blaid Lafur wedi beirniadu agwedd penaethiaid y cwmni at eu gweithwyr.
Yn ystod trafodaeth yn San Steffan, dywedodd aelod seneddol Gogledd Orllewin Coventry, Geoffrey Robinson: “Ni ellir cyfiawnhau ymddygiad felly yn yr unfed ganrif ar hugain.
“Mae’n perthyn i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, os yw’n perthyn o gwbl.”
Cyhoeddodd y gweinyddwyr ar Nos Galan fod 2,356 o weithwyr yn cael eu diswyddo, gan ddweud bod cynnig a ddaeth i law i brynu’r cwmni’n annerbyniol. Mae tua 80 o weithwyr yng Nghymru wedi colli eu swyddi.
Dywedodd Vince Cable fod y sefyllfa’n “dorcalonnus” i’r gweithwyr.
“Rwy’n credu y gall y cwmni ei hun fod yn atebol am ei ymddygiad.
“Y ffaith yw nad oedd modd parhau ac fe gafodd ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.”
Dywedodd Chuka Umunna fod rhai cwestiynau heb eu hateb o hyd.
Dywedodd Vince Cable y gallai gymryd hyd at chwe wythnos cyn i’r gweinyddwyr gyflwyno’u hadroddiad.
Ond mae’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau wedi dweud y gallai gymryd hyd at chwe mis, ac nid chwe wythnos.