Alex Salmond
Mae cyn-Brif Weinidog Yr Alban wedi dweud na fydd yr etholiad cyffredinol ym mis Mai yn gyfle i lansio ymgyrch i gynnal ail refferendwm annibyniaeth.

Pleidleisiodd 55% o drigolion Yr Alban i aros yn rhan o’r DU fis Medi’r llynedd – canlyniad a arweiniodd at ymddiswyddiad Alex Salmond.

Dywedodd Salmond y byddai’r etholiad cyffredinol yn gyfle i’r Alban roi pwysau ar y pleidiau Prydeinig i sicrhau’r cytundeb gorau o dan y drefn bresennol.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio am gytundeb sydd “mor agos at ffederaleiddio â phosib”.

Byddai’r fath gytundeb yn golygu bod Yr Alban yn gyfrifol am ei holl faterion, ac eithrio materion tramor ac amddiffyn.

Dywedodd: “Diben yr etholiad hwn yn San Steffan yw sicrhau bod Yr Alban yn derbyn yr hyn a gafodd ei addo yn y refferendwm a’r pethau y mae hawl gan bobol i’w gweld.”

Ei obaith, meddai, yw gweld ‘bloc’ o aelodau seneddol yr SNP yn cael eu hethol yn San Steffan.

Mae’r SNP yn parhau i ddadlau nad yw argymhellion Comisiwn Smith yn ddigon pellgyrhaeddiol.

Bydd Alex Salmond yn ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol ar gyfer sedd Gordon yn Sir Aberdeen.