Mark Pritchard AS
Mae’r AS Ceidwadol o Abertawe Nigel Evans, a gafwyd yn ddieuog o gyfres o droseddau rhyw, wedi cefnogi galwad gan yr AS Mark Pritchard i ganiatáu pobol sydd wedi eu cyhuddo o droseddau rhyw i aros yn anhysbys.

Ddoe, cafodd Mark Pritchard wybod na fydd yn wynebu unrhyw gamau pellach wedi iddo gael ei arestio gan yr heddlu yn dilyn honiadau o dreisio ynghanol Llundain.

Fe gafwyd Nigel Evans hefyd yn ddieuog o droseddau rhyw ym mis Ebrill ac fe ddywedodd bryd hynny ei fod wedi bod trwy “uffern” a hyd yn oed wedi ystyried lladd ei hun.

Mae’r ddau AS yn galw am “adolygu’r” gyfraith ond mae David Cameron wedi dweud nad yw hi’n debygol y bydd newid yn digwydd.

‘Bai ar gam’

Ar hyn o bryd, mae gwaharddiad cyfreithiol mewn grym ynglŷn â chyhoeddi enw dioddefwyr sy’n honni iddyn nhw gael eu cam-drin yn rhywiol, ond nid yw enwau’r rhai sy’n cael eu cyhuddo yn aros yn gyfrinachol.

Wedi iddo gael gwybod na fyddai camau pellach yn cael eu cymryd yn ei erbyn, dywedodd Mark Pritchard, 48: “Mae cael bai ar gam am rywbeth yn ofnadwy.

“Wrth gwrs, mae fy nghyhuddwr yn aros yn anhysbys ond mae angen adolygu tegwch y system.”

Dywedodd David Cameron wrth siarad ar sianel radio Heart FM Wales: “Mae’n rhywbeth rydym ni wedi edrych arno o’r blaen, ac mae anawsterau gyda’r posib o newid y gyfraith.