Boris Johnson
Dylai’r holl bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus fod yn medru siarad Saesneg, yn ôl Maer Llundain, Boris Johnson.
Dywedodd ei fod yn “hollol anghywir” os na all pobl wneud eu hunain yn ddealladwy yn Saesneg i staff y Gwasanaeth Iechyd.
Dywedodd Boris Johnson fod anallu mewnfudwyr i ddysgu Saesneg yn “wastraff cyfle” a’i fod yn “drueni mawr” fod pobl heb feistroli’r iaith.
Daeth ei sylwadau yn dilyn honiad gan arweinydd Ukip Nigel Farage fod problem gyda meddygon teulu tramor sydd ddim yn siarad Saesneg yn dda, er gwaetha’r ffaith bod yn rhaid i bob meddyg yn y gwasanaeth iechyd basio prawf iaith.
Fe wnaeth Nigel Farage ei sylwadau wrth geisio amddiffyn polisi Ukip sydd am atal pobl sydd ddim yn siarad Saesneg yn dda rhag gweithio yn y GIG.
Wrth siarad ar orsaf radio LBC, dywedodd Boris Johnson: “Rwy’n credu y dylai pawb yn Llundain, a phawb sy’n dod i weithio yn ein heconomi fod yn gallu siarad Saesneg.
“Dwi’n meddwl ei bod hi’n bechod mawr ac yn gyfle wedi’i golli iddynt. Dwi’n meddwl y dylai pawb yn y wlad – yn enwedig pobl sy’n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus fod yn gallu siarad Saesneg.”
Dywedodd fod yna rai cymunedau lle nad yw pobl yn teimlo bod angen iddyn nhw ddysgu iaith y wlad.
Bu’n feirniadol o bolisïau amlddiwylliannol sy’n golygu bod plant yn cael eu dysgu yn eu hiaith frodorol yn hytrach na Saesneg.
Ychwanegodd: “Dwi ddim eisiau bod yn wrthwynebus i bobl sy’n siarad ieithoedd eraill, ac mae ieithoedd eraill yn brydferth a dylai pobl ddysgu ieithoedd eraill. Ond yn y wlad hon, digwydd bod, rydym ni’n siarad Saesneg.”