Mae elusen Macmillan wedi rhybuddio y bydd nifer y bobol sy’n byw hefo canser ym Mhrydain yn codi i 2.5 miliwn eleni – sef y lefel uchaf erioed – a bod hyn yn debygol o arwain at “argyfwng fydd yn anodd ei reoli”.

Mae’r amcangyfrif hwn wedi codi o hanner miliwn o bobol ers y ffigyrau gafodd eu cyhoeddi pum mlynedd yn ôl.

Daw wrth i Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru ddweud mai Cymru sydd hefo’r drydedd gyfradd uchaf o ganser yr ysgyfaint ymysg merched yn Ewrop erbyn hyn.

Mae Prif Weithredwr Macmillan, Lynda Thomas, wedi rhybuddio am argyfwng canser “fydd yn anodd ei reoli” ac wedi galw ar bleidiau gwleidyddol i wneud gofal canser yn flaenllaw.

Cefnogaeth

“Wrth i niferoedd gynyddu, ni fydd y gwasanaeth iechyd yn medru ymdopi hefo’r galw am driniaeth ac fe fydd cefnogaeth gan sefydliadau fel Macmillan yn dod hyd yn oed yn fwy pwysig,” meddai Lynda Thomas.

“Ond allwn ni ddim gweithredu ar ein pen ein hunain. Mae’n rhaid i bob plaid gamu mlaen a gwneud gofal canser yn fater blaenllaw.”

Mae poblogaeth oedrannus a’r gwelliant mewn triniaethau meddygol yn rai o’r rhesymau dros gyfradd uwch o bobol sy’n byw hefo canser.

Dywedodd Macmillan bod disgwyl i 4 miliwn o bobol gael diagnosis o ganser erbyn 2030.