Mae nifer yr achosion newydd o ganser yr ysgyfaint wedi cynyddu’n gyflym mewn merched sy’n bensiynwyr, yn ôl adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae canser yr ysgyfaint yn y pedwar uchaf o’r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru ac mewn cyfnod o ddeng mlynedd rhwng 2003-2012, fe arhosodd y niferoedd blynyddol yn debyg ymysg dynion ond ymysg merched cafwyd cynnydd o dros draean.

Rhwng 2003 a 2012, bu cynnydd yn nifer yr achosion o ganser yr ysgyfaint mewn merched. Roedd 825 o achosion o ganser yr ysgyfaint mewn merched yn 2003 ond roedd y nifer wedi cynyddu i 1,121 erbyn 2012.

Mae’r adroddiad, gan Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, yn amcangyfrif bod cyfraddau’r achosion o ganser yr ysgyfaint mewn merched yng Nghymru’r trydydd uchaf o 40 o wledydd Ewropeaidd eraill. Mae’r gyfradd mewn dynion yn uwch nag 11 o’r gwledydd hynny.

Arferion ysmygu

Yn ôl yr adroddiad, mae’r cyfraddau hyn yn adlewyrchu arferion ysmygu yn y 1970au, yr 80au ac yn y 90au cynnar – tra bod ysmygu sigaréts ymysg dynion wedi dod i uchafbwynt yn y 1940au, ymysg merched cafwyd yr uchafbwynt ar ddiwedd y 1980au.

Mae’r adroddiad hefyd yn amcangyfrif bod yna ddiagnosis o oddeutu 36 o achosion newydd o ganser yr ysgyfaint bob wythnos yng Nghymru o ganlyniad i effeithiau mwg tybaco ymysg ysmygwyr a’r rheiny sydd ddim yn ysmygwyr.

Amcangyfrifir y ceir diagnosis o oddeutu naw o achosion yr wythnos yng Nghymru oherwydd ffactorau eraill fel nwy radon ymbelydrol sy’n digwydd yn naturiol, amlygiad i asbestos a llygredd aer cludiant.

Mae’r adroddiad yn atgyfnerthu’r ffaith y gellir atal canser yr ysgyfaint bron yn gyfan gwbl yn y boblogaeth drwy reolaeth effeithiol o dybaco a thrwy ddelio â’r risgiau eraill hynny.

Amddifadedd

Canser yr ysgyfaint sydd â’r cyswllt cryfaf ag amddifadedd o’r holl ganserau mwyaf cyffredin, yn bennaf oherwydd y cyswllt ag ysmygu a diwydiannau’r gorffennol.

Dros ddeng mlynedd fe gynyddodd y bwlch amddifadedd o 27% fel bod nifer yr achosion y pen o’r boblogaeth, yn fwyaf diweddar, yn ddwywaith a hanner yn uwch yn yr 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru o’u cymharu â’r 20% o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig.

O ran ardaloedd awdurdodau lleol, mae’r gyfradd uchaf o nifer yr achosion o ganser yr ysgyfaint ym Merthyr Tudful sydd 87% yn uwch na’r isaf, Sir Fynwy. Mae’r gwahaniaethau rhwng ardaloedd yn ehangach i ferched nag i ddynion.

Canser mwyaf cyffredin

Esbonia Dr Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, Uned Gwybodaeth Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Canser yr ysgyfaint yw’r canser mwyaf cyffredin yn fyd-eang a dyma’r canser mwyaf cyffredin i arwain at farwolaeth yn yr Undeb Ewropeaidd.”

Mae’n credu fod modd atal twf canser yr ysgyfaint trwy reoli tybaco yn effeithiol: “Mae’r afiechyd yn un y gellir ei atal i raddau helaeth. Tra bod cyfraddau ysmygu wedi dod i lawr yng Nghymru, ac mae amlygiad i asbestos yn rheoledig erbyn hyn, mae dal angen rheolaeth tybaco effeithiol pellach i ddod â’r cyfraddau i lawr i lefelau Sweden neu Awstralia, er enghraifft. Mae angen i ni edrych hefyd ar risgiau eraill fel llygredd aer a radon.

“Mae angen hefyd gweld mwy o bobl yn cael diagnosis yn y cyfnod cynnar pan fyddai yna botensial o’u trin â llawfeddygaeth neu radiotherapi.”