Mae arolwg yn Sir Benfro wedi datgelu bod 74% o bobol yn meddwl bod angen gwella’r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn y sir.
Roedd yr arolwg wedi holi trigolion os hoffen nhw weld addysg Gymraeg yn cael ei gynnig mewn ysgolion ledled y sir mewn unrhyw ad-drefnu yn y dyfodol.
Heddiw, bu cabinet Cyngor Sir Benfro yn trafod y canlyniadau yn ogystal â’r bwriad i ystyried y galw am addysg Gymraeg mewn datblygiadau eraill yn y sir.
Dywedodd y cynghorydd Huw George, yr aelod cabinet dros addysg Gymraeg, fod canlyniadau’r arolwg yn “gam enfawr ymlaen” i’r iaith Gymraeg yn Sir Benfro:
“Bydd hyn yn dylanwadu trafodaethau ar ail-drefnu addysg uwchradd yn y dyfodol,” meddai.
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y cynghorydd Jamie Adams na ddylai addysg Gymraeg gael ei bennu yn ôl lleoliad, ond yn hytrach yn ôl dewis.
Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae tua 23,000 o siaradwyr Cymraeg yn sir Benfro, sef tua 19% o’r boblogaeth.
‘Arwyddocaol’
Dywedodd Bethan Williams, swyddog maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith:
“Does dim argymhelliad penodol wedi dod ynglŷn ag opsiynau ar gyfer addysg Gymraeg yn y sir o hyd, dim ond nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad roedd yn rhaid i’r cyngor ei wneud yn gyfreithiol fel rhan o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
“A dydy’r hyn oedd yn y canfyddiadau ddim yn bellgyrhaeddol, nac yn golygu mwy nag y byddai’n haws dewis addysg Gymraeg.
“Mae’r ffigwr o 74% yn arwyddocaol. O siarad gyda rhieni yn y sir sydd wedi byw yma gydol eu hoes ond heb gael addysg Gymraeg mae wedi dod yn amlwg eu bod yn teimlo iddyn nhw golli mas – o ran gwaith a diwylliant ac nad ydyn nhw am i’r un peth fod yn wir am eu plant. Mae’n glir felly ei bod yn hen bryd i’r cyngor sir weithredu.
“Beth sydd angen yw cynllun clir i symud holl ysgolion y sir ar hyd continwwm tuag at ddod yn ysgolion Cymraeg, fel bod pob disgybl yn y sir, fel ar draws Cymru, yn cael rhywfaint o’u haddysg yn Gymraeg, fel eu bod nhw’n gallu ei defnyddio yn eu gwaith a’u bywyd bob dydd.”