Siop Bank
Mae mwy na 1,500 o swyddi yn siopau dillad Bank yn y fantol ar ôl i’r busnes gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr heddiw.

Mae gan Bank 84 o siopau, yn bennaf yn Lloegr a’r Alban, a chwech yng Nghymru gan gynnwys Llanelli, Caerdydd, Bae Caerdydd a Chasnewydd.

Cafodd Deloitte ei benodi fel gweinyddwyr heddiw yn dilyn adolygiad o’r busnes.

Mae’r siopau ar agor yn ôl yr arfer ac nid oes unrhyw ddiswyddiadau wedi cael eu cyhoeddi tra bod Deloitte yn ystyried ceisiadau posib am y busnes.

Dywedodd Deloitte bod y siopau wedi dioddef mewn “marchnad gystadleuol iawn” ac wedi bod yn gwneud colled ers nifer o flynyddoedd.

Cafodd Bank ei brynu gan JD Sports Fashion yn 2007 am £18.5 miliwn. Ym mis Tachwedd cafodd ei brynu gan gwmni Hilco, sy’n berchen HMV.