Mae ’na lygedyn o obaith i weithwyr gyda chwmni dosbarthu City Link sy’n wynebu colli eu swyddi heddiw yn dilyn cais posib i achub rhan o’r busnes.

Mae’r gweithlu o 2,727 eisoes wedi cael rhybudd i ddisgwyl diswyddiadau sylweddol – gan gynnwys 80 yng Nghymru – ar ôl clywed bod y cwmni wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ar Ddydd Nadolig.

Ond maen nhw wedi cael cynnig rhywfaint o obaith ar ôl i ysgrifennydd cyffredinol undeb yr RMT, Mick Cash, ddatgelu manylion, sydd heb eu cadarnhau, am gais posib i achub rhan o’r busnes.

Mae’n debyg bod yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable yn ymwybodol o’r datblygiadau.

Dywedodd Mick Cash nad oes rhagor o fanylion ar hyn o bryd a bod y mater yn nwylo’r gweinyddwyr, Ernst & Young.

Nid yw Ernst & Young wedi ymateb i honiad yr RMT.