Pont Hafren
Mae gan Lywodraeth San Steffan hyd at naw mlynedd arall i adennill eu costau ar bontydd Hafren wedi iddyn nhw ddychwelyd i ddwylo cyhoeddus, yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law Blaid Cymru.

Daeth y datgeliad ddiwrnod cyn i dollau godi ar Bont Hafren gyda gyrwyr ceir yn talu 10c yn ychwanegol, gan olygu y bydd y doll yn codi i £6.50 tra bod cerbydau nwyddau trwm a gyrwyr bws yn gorfod talu £19.60, cynnydd o 40c. Mae prisiau i gerbydau nwyddau bach a bysus bach hefyd yn codi.

Celu eu bwriad’

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru yn San Steffan ar Drafnidiaeth, Jonathan Edwards AS: “Tra bod y pontydd yn debyg o ddychwelyd i ddwylo cyhoeddus erbyn 2018, bydd gan Lywodraeth y DU hawl o hyd i adennill eu costau. Mae’r hawl hwn yn para tan 2027. Dan y tollau presennol, fe gymerai flwyddyn neu ddwy i’r Llywodraeth adennill eu costau, ond ar hyn o bryd, maent yn fwriadol yn celu’r hyn maent am wneud.

“Rhaid i’r Llywodraeth fod yn onest am eu cynlluniau wedi 2018 a dweud a ydynt yn bwriadu parhau i godi tâl hyd at 2027 a thu hwnt.”

Ychwanegodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: “Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gostwng y tollau i ryw £2 (ar brisiau heddiw) i dalu am gynnal a chadw, costau staff ac argyfyngau. Byddai’n adolygu mater dileu’r tollau yn gyfan gwbl, a byddai hyn yn dibynnu ar gostau.”

‘Adennill costau’

Mewn ymateb i gais Deddf Rhyddid Gwybodaeth gan y Blaid, dywedodd Asiantaeth Priffyrdd y DG: “Mae gan Severn River Crossing (SRC) hawl i gasglu swm diffiniedig o’r tollau (£1,028.9m ar brisiau Gorffennaf 1989) ac mae’r rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd y swm hwn yn cael ei adennill yn 2018.

“Wedi hyn, bydd y pontydd yn cael eu dychwelyd i’r Llywodraeth. Ni wnaed unrhyw benderfyniadau ynghylch dyfodol pontydd Hafren. O’r pwynt hwn ymlaen, mae gan y llywodraeth yr hawl i adennill eu costau eu hunain o adeiladu, cynnal a rheoli’r pontydd tan 2027. Byddai hyn am gostau sy’n dod y tu allan i gwmpas y consesiwn presennol, er enghraifft, costau a ddaeth i’w rhan am waith ar geblau wedi cyrydu.

“Ar sail parhad y trefniadau presennol, disgwylir y cymer rhyw flwyddyn neu ddwy i adennill yr arian hwn; fodd bynnag, mae union natur y drefn honno eto i’w bennu.”