Nid yw adferiad economaidd y DU wedi bod mor dda ag yr amcangyfrifwyd yn wreiddiol, yn ôl ffigurau swyddogol heddiw gan awgrymu y gallai’r twf eleni fod yn is nag oedd wedi ei ragweld.

Mae ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos bod yr economi yn ddibynnol ar wariant pobl wrth i fuddsoddiad mewn busnes wanhau.

Dengys y ffigurau bod twf yn y trydydd chwarter yn dilyn rhagolygon cynharach o 0.7%, ond bod y ffigurau ar gyfer y pum cyfnod cyn hynny wedi cael eu gostwng.

Roedd GDP yn y trydydd chwarter yn 2.6%, sy’n is na’r amcangyfrif blaenorol o 3%.

Yn y cyfamser mae dyledion y DU wedi cynyddu i £27 biliwn, sy’n cyfateb i 6% o GDP.

Dywedodd yr economegydd Samuel Tombs o Capital Economics bod y ffigurau’n dangos bod economi’r DU “yn edrych yn llawer mwy bregus nag oedd o’r blaen.”

Mae’r ffigurau’n ergyd i’r Canghellor George Osborne a oedd wedi dweud yn Natganiad yr Hydref bod disgwyl i’r economi dyfu 3% ond mae’r ffigurau newydd yn awgrymu y bydd yn 2.6%.