Lesley Griffiths
Mae dros £30 miliwn wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, i barhau i helpu ardaloedd difreintiedig ledled Cymru.

Bydd y £31.7 miliwn yn cael ei ddosbarthu i 52 o ardaloedd difreintiedig, a fydd yn mynd at gynnal y bobl fwyaf bregus yng Nghymru, gyda’r bwriad o daclo tlodi a hyrwyddo addysg, iechyd a lles economaidd.

Bydd ardaloedd ar draws Cymru yn elwa o’r arian rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mawrth 2016.

Rhondda Cynon Taf yw’r awdurdod sy’n derbyn y swm uchaf o gymhorthdal sy’n werth £4,850,025.

‘Gwahaniaeth gwirioneddol’

Wrth gyhoeddi’r arian, dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Lesley Griffiths: “Dwi’n falch iawn o gyhoeddi’r cyllid hwn heddiw, fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru am flynyddoedd i ddod.

“Mae darparu £31.7 miliwn ar gyfer ein rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn ystod cyfnod o doriadau yn y gyllideb yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi ein cymunedau mwyaf bregus, a lleihau’r bwlch economaidd, addysgol a’r bwlch iechyd rhwng ein hardaloedd mwyaf difreintiedig a’n hardaloedd mwyaf cyfoethog.”

Ychwanegodd, “Mae tlodi yn cael effaith ar fywydau gormod o bobl o lawer. Mae gormod o deuluoedd lle nad oes neb yn gweithio, ac yn methu â fforddio hanfodion sylfaenol fel gwresogi eu cartref yn ystod y cyfnod oer hwn. Mae mynd i’r afael â’r mater hwn yn flaenoriaeth i mi a’r Llywodraeth gyfan. ”