Mae cyfres o rybuddion llifogydd wedi cael eu cyhoeddi’r bore ma, gyda disgwyl y bydd glaw trwm yn taro Cymru gyfan yn ystod y prynhawn.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, fe ddylai pobol yn ardaloedd Eryri, Abertawe, Wrecsam, Blaenau Ffestiniog, Conwy a’r rhai sy’n byw ar yr arfordir fod yn wyliadwrus.
Mae’r asiantaeth yn cynghori pobol i fod yn ofalus os ydyn nhw’n gyrru ar y ffyrdd ac i adael amser ychwanegol ar gyfer teithio.
Bydd y rhybudd tywydd yn parhau mewn grym tan 11:00 yr hwyr a’r glaw yn clirio yfory.