Y lori yng nghanol dinas Glasgow wedi'r ddamwain
Mae Heddlu’r Alban wedi cadarnhau bod chwech o bobl wedi’u lladd ar ôl i lori casglu sbwriel daro i mewn i grŵp o gerddwyr yng nghanol Glasgow heddiw.

Cafodd saith o bobl eu hanafu’n ddifrifol yn y “digwyddiad difrifol tu hwnt” yn Sgwâr George yn Glasgow ac maen nhw wedi cael eu cludo i ysbytai yn y ddinas.

Yn ôl llygad dystion roedd cyrff i’w gweld yn gorwedd ar y ffordd ar ôl y ddamwain a ddigwyddodd yn ystod un o gyfnodau prysura’r ddinas.

Mae adroddiadau, sydd heb eu cadarnhau, yn awgrymu bod gyrrwr y lori wedi cael trawiad ar y galon a bod y lori wedi colli  rheolaeth gan daro cerddwyr ar y stryd ger Gwesty’r Millennium. Daeth y lori i stop ar ol taro adeilad.

Mae’r gyrrwr yn cael triniaeth yn yr ysbyty.

Mae’r heddlu wedi pwysleisio nad ydyn nhw’n credu bod y digwyddiad yn weithred fwriadol ond eu bod yn parhau i ymchwilio.

Mae’r ffyrdd o amgylch y sgwâr wedi eu cau wrth i’r gwasanaethau brys ddelio gyda’r ddamwain.