Fe allai merched gael yr hawl i ymladd yn y rheng flaen wrth i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ystyried newid polisi lluoedd arfog Prydain.
Ar hyn o bryd mae gan ferched yr hawl i wasanaethu mewn rhai swyddi ymladd ar awyrennau a llongau ond mae posibilrwydd bellach y byddan nhw’n cael bod ym mlaen y gad ar y ddaear hefyd.
Fe awgrymodd adolygiad gan y llywodraeth y dylen nhw hefyd gael bod yn filwyr traed a gweithio mewn adrannau arfog yn y fyddin.
Newid byd
Yn ôl yr adolygiad, mae’n bryd ystyried a oes gan ferched rôl i’w chwarae ar faes y gad gyda lluoedd arfog Prydain.
Ond roedd yr adolygiad hefyd yn dweud bod angen gwneud rhagor o ymchwil i’r gofynion corfforol sydd ar filwyr cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Ond mae rhai cyn-filwyr wedi codi amheuon am allu merched i wneud y gwaith.
‘Gallu nid rhyw’
“Dylai swyddi yn y lluoedd arfog fod yn seiliedig ar allu nid rhyw,” meddai’r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon.
“Ar ôl rhagor o waith ar ein hoffer a chynlluniau ymarfer, rwy’n gobeithio y gallwn ni wneud y swyddi ymladd ar agor i ferched o 2016.
“Mae hwn yn arwydd pellach o’n hymroddiad i wneud y mwyaf o’n talent mewn blwyddyn ble mae’r Llynges wedi cyflogi merched ar longau tanfor am y tro cyntaf, a dwy ddynes wedi cael swyddi uchel gyda’r awyrlu.”