Old Bailey
Fe fydd dyn o Gaerdydd yn ymddangos yn llys yr Old Bailey heddiw ar gyhuddiadau o Frawychiaeth.
Fe gafodd Syed Choudhury ei arestio mewn cyrchoedd yng Nghaerdydd a’r Barri yr wythnos ddiwetha’.
Mae’r dyn 19 oed o Drelluest – Grangetown – wedi ei gyhuddo o roi cymorth i gyrff sydd wedi eu gwahardd gan ddeddfau brawychiaeth ac o helpu i baratoi gweithred o frawychiaeth.
Roedd Uned Eithafiaeth a Gwrth Frawychiaeth yr heddlu yng Nghymru wedi cydweithio gyda chorff tebyg o Dde-ddwyrain Lloegr yn y cyrchoedd ddiwedd yr wythnos ddiwetha’.
Roedd pump o ddynion wedi eu harestio i gyd ond fe gafodd y gweddill eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
[DI1] cy